Fy Iechyd, Fy Newis. Canllaw i'ch llesiant.
Ein nod yw eich cefnogi i fyw'n dda trwy gydol eich bywyd, o ddechrau a datblygu'n dda i heneiddio'n dda.
- Mae'r adnodd “Fy Iechyd, Fy Newis” yn darparu gwybodaeth am wasanaethau gofal iechyd yn eich cymuned. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer meddygon teulu, fferyllwyr, optegwyr a deintyddion. Rydym wedi creu'r fideos byr a hawdd eu deall i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich iechyd.
- Gall y fideos yn ateb eich holl gwestiynau o'r hyn y dylech ei wneud pan fyddwch yn sâl i ble i geisio cymorth.
Byddant yn eich helpu trwy eich cyfeirio at y gwasanaethau cywir sydd ar gael yn y gymuned fel y gallwch gael y gofal cywir ar yr amser cywir. Trwy ddeall pa gwasanaeth gall eich helpu a dysgu awgrymiadau ymarferol ar gyfer lles dyddiol, gallwch reoli eich taith iechyd.
Rydym am eich grymuso i wneud y dewisiadau cywir ar yr amser cywir a theimlo'n hyderus wrth reoli eich iechyd. Gyda'ch cefnogaeth chi gallwn wneud gofal sylfaenol yn fwy effeithlon ac yn fwy hygyrch.
Gwyliwch y fideos isod a rhannwch nhw gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.