Rydym eisiau gwella's ffordd y gallwch gael gafael ar wasanaethau yn eich practis meddyg teulu
Cyhoeddwyd cyfres newydd o safonau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 sydd â'r nod o godi a gwella lefel y gwasanaeth i gleifion yng Nghymru o'u meddygfeydd.
Mae'r safonau hyn wedi'u nodi isod.
(a)cael system ffôn gyda swyddogaeth recordio ar gyfer llinellau sy'n dod i mewn ac allan, sy'n pentyrru galwadau ac yn caniatáu dadansoddi data galwadau,
(b)cael neges cyflwyniad ffôn wedi’i recordio’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg nad yw’n para mwy na 2 funud,
(c)sicrhau bod cleifion a chartrefi gofal yn gallu archebu presgripsiynau rheolaidd yn ddigidol,
(d)am gyfnod yr oriau craidd, sicrhau bod cleifion yn gallu gwneud cais digidol am apwyntiad nad yw’n frys neu alwad yn ôl, a bod y trefniadau llywodraethu angenrheidiol ar waith ar gyfer y broses hon,
(e)rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth drwy adnodd ar-lein y practis ar—
- y gofynion mynediad a nodir ym mharagraff 4 hwn, a sut y gall cleifion—
- cael mynediad at wasanaethau’r contractwr, a
- gofyn am ymgynghoriad brys, arferol ac uwch,
(f)cynnig ymgynghoriad yr un diwrnod ar gyfer—
- plant dan 16 oed gyda chyflwyniadau acíwt, a
- cleifion sy’n cael eu brysbennu’n glinigol fel rhai sydd angen asesiad brys,
(g)cynnig apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw yn ystod oriau craidd; a
(h)cyfeirio cleifion yn weithredol at wasanaethau priodol—
- ar gael gan aelodau clwstwr y contractwr,
- a ddarperir neu a gomisiynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu
- ar gael yn lleol neu'n genedlaethol.